CANOLFAN GYMUNEDOL YR HENDY – CYNLLUNIAU
‘Rydym yn falch iawn i gyhoeddi bod y Cyngor Cymuned wedi derbyn cyllid i newid defnydd a datblygu’r hen Glwb Criced, a’i droi yn adnodd cymunedol. Mae’r ymgynghoriadau cymunedol, a gynhaliwyd dros nifer o flynyddoedd, wedi dangos bod angen y fath gyfleuster.
Disgwylir y bydd y gwaith yn dechrau ar y safle yn y dyfodol agos. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Swyddog Datblygu Cymunedol ar 0786 2218066; ebost Llanedicdo@gmail.com; Facebook: Ruth Llanedi CC
Mehefin 2020
Cynlluniau Pensaer
LLWYBR NATUR NEWYDD
GWIRFODDOLI
Gwirfoddolwyr yw enaid cymunedau iach. Os oes gennych amser sbâr i gynnig i brosiect cymunedol bydden ni’n falch iawn i glywed.
Mae eisoes gennym gyfleoedd i chi i:
Gallwn hefyd helpu cefnogi grwpiau gwirfoddol newydd.
- Ymuno â Grŵp Casglu Sbwriel Cymunedol Llanedi
- Ymuno â Chylch Cyfeillgarwch Llanedi
- Ymuno â Fforwm Cymunedol yr Hendy
Am ragor o wybodaeth, neu i wneud ymholiadau ynghylch gwirfoddoli yn lleol, cysylltwch â’r Swyddog Datblygu Cymunedol ar 0786 2218066 neu ebostiwch LlanediCDO@gmail.com os gwelwch yn dda.
Gallwch hefyd gofrestru fel gwirfoddolwr gyda CAVS http://www.cavs.org.uk/volunteer-centre/registration-forms