Canolfannau Gwaith
https://www.jobcentrejobs.co.uk/
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Mae bysys lleol yn gwasanaethu Llanedi; mae arosfannau bws wedi’u lleoli ar bob ochr y ffordd ger Grîn y Pentref. Mae’r gorsafoedd trên agosaf wedi’u lleoli ym Mhontarddulais ac ym Mhantyffynnon.
Mae nifer o arosfannau bws yn Nhycroes, ac mae’r orsaf drên agosaf ger y pentref ym Mhantyffynnon.
Mae nifer o arosfannau bws yn yr Hendy, ac mae’n bosibl cerdded i’r orsaf drên agosaf, sef gorsaf Pontarddulais.
Am yr amseroedd a’r llwybrau teithio ewch i Traveline Cymru.
Yr Heddlu Lleol
Tycroes https://www.dyfed-powys.police.uk/en/your-area/carmarthenshire/amman-towy/llandybie-tycroes-saron-capel-hendre-and-penybanc/
Yr Hendy, Fforest a Llanedi:https://www.dyfed-powys.police.uk/en/your-area/carmarthenshire/llanelli-rural/llangennech-bryn-and-hendy/
Gwybodaeth am y Ward
Tycroes https://www.carmarthenshire.gov.wales/media/1212827/tycroes-ward.pdf
Yr Hendy, Fforest a Llanedi
https://www.carmarthenshire.gov.wales/media/1212793/hendy-ward.pdf
Y Cyngor Sir
Os am wybodaeth ynghylch unrhyw un o’r canlynol, cysylltwch â Chyngor Sir Caerfyrddin os gwelwch yn dda:
• Ailgylchu, Biniau ac Ysbwriel
• Tai
• Budd-daliadau
• Treth y Cyngor
• Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau, a Phartneriaethau Sifil
• Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
• Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
• Addysg ac Ysgolion
• Cynllunio
• Rheoli Adeiladu
• Safonau Masnach
• Iechyd Amgylcheddol
• Llyfrgelloedd ac Archifau
• Theatrau, Celfyddydau ac Amgueddfeydd
• Adloniant a Gweithgareddau Awyr Agored
• Hawliau Tramwy Cyhoeddus
• Gwybodaeth Cymunedol
• Argyfyngau a Diogelwch Cymunedol
• Teithio, Ffyrdd a Pharcio
Sbwriel ac Ailgylchu
Gwybodaeth Ailgylchu

Ewch i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin, www.carmarthenshire.gov.wales/home/council-services/ i wirio’r dyddiad, a’r math o gasgliadau bin sydd i’w cynnal.
Cliciwch yma i weld Calendr Casglu Sbwriel 2019
Baeddu gan Gŵn
Mae Cyngor Cymuned Llanedi, ynghyd â Chyngor Sir Caerfyrddin, yn annog perchnogion cŵn i ymddwyn yn gyfrifol, ac i godi baw ar ôl eu cŵn.
Er bod y mwyafrif o’n trigolion yn gyfrifol ac yn codi baw ar ôl eu cŵn, mae ambell i berchennog esgeulus yn dal i roi enw drwg i gŵn.
Achwyniadau ynghylch sbwriel yn ein parciau, ar bafinau ac mewn mannau cyhoeddus, ynghyd â baeddu gan gŵn yw’r achwyniadau mwyaf cyson sy’n dod i sylw’r Cyngorn.
Codi, Bagio a Binio’r Baw!
Cadwch gyflenwad o fagiau plastig wrth ymyl tennyn eich ci (mae bagiau plastig o’r archfarchnad yn rhawiau baw rhagorol) fel na fyddwch yn eu hanghofio pan ewch am dro. Rhowch eich llaw yn y bag plastig a chodwch faw eich ci.
Yn ofalus, trowch y bag plastig y tu mewn allan a bydd eich baw ci yn y bag.
I waredu eich bag rhowch ef mewn bin sbwriel cyhoeddus.
Codwch neu Dalwch!
Mae swyddogion gorfodi amgylcheddol y Cyngor yn patrolio’r Sir yn gyson, a bydd unrhyw un sy’n cael eu dal heb lanhau ar ôl eu ci yn derbyn hysbysiad cosb benodedig o £75.
Gallai methu â thalu o fewn 14 diwrnod arwain at ddirwy o £1,000 wrth gael eich erlyn yn Llys yr Ynadon.
Os ‘rydych yn dyst i ddigwyddiad o faeddu gan gi yn eich ardal, cysylltwch â Carmarthenshire Direct drwy ffonio: 01267 234567