Mae’r Cyngor Llawn yn cyfarfod ar ddydd Mercher cyntaf y mis am 6.30 yh (ag eithrio ym mis Awst). Mae hefyd gan y Cyngor nifer o bwyllgorau a fydd yn cyfarfod pan fod angen gwenud hynny. Mae croeso i aelodau’r cyhoedd fynychu holl gyfarfodydd y Cyngor. Bydd rhaid i unrhywun sydd am annerch y Cyngor gysylltu â’r Clerc cyn unrhyw gyfarfod.
Rhestr Cyfarfodydd 2020
Cyfarfodydd y Cyngor – Covid 19
Oherwydd y sefyllfa bresennol gyda firws Corona, mae cyfarfodydd arferol y Cyngor wedi’u hatal. Er mwyn galluogi’r Cyngor i barhau â busnes arferol mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn disodli’r ddeddfwriaeth arferol ynghylch busnes y Cyngor ac yn galluogi Cynghorau i gynnal cyfarfodydd ar-lein i amddiffyn Cynghorwyr ac aelodau’r cyhoedd.
Er mwyn galluogi aelodau’r cyhoedd i weld cyfarfodydd y Cyngor yn y dyfodol ar-lein, bydd angen gwneud cais i’r Clerc er mwyn e-bostio cod a fydd yn caniatáu mynediad i weld y cyfarfod. Gellir cysylltu trwy e-bostio David Davies ar daidoc@yahoo.co.uk neu ffonio 07971 026493 cyn y cyfarfod.
Trefn y Cyfarfodydd
Cofnodion y Cyfarfodydd
Cliciwch yma, os gwelwch yn dda, i weld cofnodion y cyfarfodydd (PDF). Nodwch, os gwelwch yn dda, bod angen cadarnhau’r cofnodion cyn eu lanlwytho. Bydd hyn yn digwydd yng nghyfarfod nesaf y Cyngor.