Tyfu Gyda’n Gilydd Tycroes

Tyfu Gyda’n Gilydd Tycroes

FIDEO

Mae’r prosiect cyffrous hwn, a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, yn anelu at ddatblygu cyfleoedd y gall pobl lleol ymgysylltu â nhw, a gwella mannau gwyrdd yn y pentref. Bydd y prosiect yn datblygu’r gofod hyn er budd y gymuned, yr amgylchedd, ein bioamrywiaeth ac yn mynd i’r afael â phroblemau megis arafu dŵr.

Bydd y prosiect yn ffocysu ar:
* Datblygu dolydd blodau gwyllt a chreu coridor o flodau gwyllt at ddefnydd Brith y Gors a rhywogaethau eraill (yn gysylltiedig ag ardal Brith y Gors Caeau Mynydd Mawr, ardal sydd eisoes yn bodoli).
* Creu perllan gymunedol a fydd hefyd yn helpu gyda draeniad dŵr o gwmpas ased cymunedol (Neuadd y Sgowtiaid).
* Gwella mynediad at goetir bychan a chreu gwell cyfleodd i archwilio a chwarae ‘yn y gwyllt’.
* Datblygu ardal dyfu gymunedol – defnyddio gwelyau wedi’u codi fel bod pobl o bob oedran yn gallu cymryd rhan a dysgu oddiwrth ei gilydd.
* Byddwn yn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau arlein ac yn fyw, fel bod y cyfyngiadau yn caniatáu.

Yn unol â’n polisi amgylcheddol, bydd y prosiect yn gwbl gynaliadwy.

Mae’r mudiadau lleol canlynol yn cefnogi’r prosiect:
* Sgowtiaid Sir Gaerfyrddin
* Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Tycroes ac Ysgol Gynradd Tycroes
* Trekkers Tycroes
* Henoed Tycroes
* Clwb Ieuenctid Tycroes
* Parc Coetir y Mynydd Mawr


YMUNWCH Â NI

Mae’r prosiect yn dibynnu ar unigolion a grwpiau yn cydwethio. Mae’r rolau gwirfoddol yn cynnwys: wardeiniaid, garddwyr, cofnodwyr bywyd gwyllt, ymchwiliwyr ac eraill. Os hoffech wirfoddoli cysylltwch â www.facebook.com/FOTycroesParks/ neu ffoniwch Ruth, ein Swyddog Datblygu Cymunedo 0786 2218066

YMHLE MAE’R PROSIECT YN CAEL EI GYNNAL?

Mae’r ddau safle sydd wedi’u cynnwys yn y prosiect yn ardaloedd gwyrdd sy’n cael eu trysori gan bobl lleol. Gyda’i gilydd maen nhw’n cynnwys dros 66,300 metr sgwâr.

Mae’r tir yn Heol Brown a Pharc Cwmfferws yn cynnwys cymysgedd o goridor afon, tir lled naturiol, cyn dir diwydiannol a adferwyd a choetir naturiol. Maen nhw eisoes yn darparu cymysgedd o gynefinoedd ac adnoddau hamdden ar gyfer pobl lleol. Serch hynny, byddai modd eu gwella yn sylweddol er mwyn gwneud iddynt weithio’n galetach i fywyd gwyllt, taclo arafu dŵr ac ymgysylltu â’r boblogaeth leol sydd, ar hyn o bryd, yn ddefnyddwyr goddefol, yn hytrach nag yn ddefnyddwyr gweithredol.


O ran ei nodweddion hamesyddol, mae Parc Cwmfferws yn cynnwys cofeb i’r diwydiant glo. Mae hwn yn ein hatgoffa bod y pentref wedi tyfu fel tref lofaol yn ystod y chwyldro diwydiannol diolch i nifer o byllau glo bychan, ac yna datblygiad Glofa Brown yng Ngwaun y Wernos (a oedd heb bod ymhell o safle presennol Parc Tycroes). Bydd llawer o drigolion hŷn yr ardal yn cofio bod llawer o’r tir o gwmpas y parc wedi’i rhoi i’r gymuned gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol. Bydd y prosiect hyn yn ehangu ar yr etifeddiaeth hon drwy greu ymdeimlad o berchnogaeth ymysg y trigolion iau yn ogystal â’r to hŷn.
Mae i’r safleoedd bwysigrwydd treftadaeth naturiol hefyd, gan eu bod yn rhan o ardal prosiect Caeau Mynydd Mawr (sy’n gysylltiedig â Iâr Fach yr Haf Brith y Gors).
Mae’r safleoedd yn manteisio ar eu hagosrwydd at adnoddau lleol megis parc chwarae y plant, yr ardal chwaraeon aml-ddefnydd a chae pêl-droed, yn ogystal â Chaban y Sgowtiaid, sy’n cael ei ddefnyddio’n helaeth gan fudiadau lleol.