Yr Hendy a’r Fforest


Pentref yn Sir Gaerfyrddin yw yr Hendy. Ynghyd â’r ardal a elwir y Fforest, mae wedi ei leoli ar lannau gorllewinol yr Afon Llwchwr, sy’n ei wahanu oddiwrth Pontarddulais yn Sir Abertawe. Mae’r pentref yn wledig, ond yn hygyrch oherwydd ei gysylltiad â thraffordd yr M4.


Mae’r Afon Gwili yn gefnlen dymunol i Barc yr Hendy, parc sy’n cynnwys offer chwarae gwych ynghyd ag ardal gemau aml-ddefnydd. Mae’r parc hefyd yn gartref i gae chwarae Clwb Rygbi yr Hendy, tra bod adeilad y clwb ar ochr arall yr afon.


Mae sawl busnes yn y pentref gan gynnwys siop leol, dwy Swyddfa Bost (un yn yr Hendy a’r llall yn y Fforest), fferyllydd, siop flodau, siop ffrociau priodas a chafé cymunedol. Yn ychwanegol, mae ystod o fusnesau wedi’u lleoli ar Ystâd Ddiwydiannol yr Hendy.


Mae tŷ tafarn yn y pentref, sef Y Ceffyl Du, a dau gapel, Capel Newydd a Libanus.


Mae’r Hendy yn falch o’r ysgol leol, sydd wedi bod wrth galon y pentref am dros 100 mlynedd. Mae’n darparu addysg dwy ffrwd (Cymraeg a Saesneg) i blant oed ysgol gynradd. Hefyd yn y pentref mae Cylch Meithrin sydd wedi hen sefydlu ei hun.


Am wybodaeth bellach am y ward ewch i: https://www.carmarthenshire.gov.wales/media/1212793/hendy-ward.pdf

Hanes


Datblygodd yr Hendy o gwmpas y gwaith Alcam sy’n dyddio o’r 1860au hwyr. Serch hynny, fe ddaeth yn ddrwg-enwog yn yr 1840au cynnar yn sgil Terfysgoedd Beca, a achoswyd gan y tollau trwm a osodwyd ar deithio ar hyd y ffyrdd.


Cloddiwyd am lo ym mhyllau glo Benallt a Thalyclun (drws nesaf i’r gwaith briciau).
Dechreuodd datblygiad cynnar Capeli Annibynnol Cymreig yr ardal yn Yr Hen Gapel yn gynnar yn y 18fed ganrif.


Roedd pentref y Fforest yn bwysig oherwydd roedd yno felin ŷd ar ystâd y Cawdor-Fychaniaid, a ganddyn nhw oedd y monopoli ar falu’r ŷd.


Roedd y teulu Davies yn byw ym Mhlas y Fforest, ac roedd eu hystâd hwythau yn ymestyn yn helaeth i’r de ac yn ffinio ar Ystâd Clayton.

Diolch i Helenor a Howard Jones am y wybodaeth hanesyddol